Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Mawrth 2021
Amser:
09.01 -
09.45
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Mark Isherwood AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ohirio’r eitemau a ganlyn tan 16 Mawrth:
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
o Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021
o Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021
o Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021
o Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 16 Mawrth 2021
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (45 munud)
oRheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021
oRheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021
oRheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021
oRheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021 –
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (30 munud)
· Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 (15 munud)
· Dadl: Diwygiadau i Setliadau Llywodraeth Leol a’r Heddlu 2020-2021 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 17 Mawrth 2021 –
· Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau’r Senedd (5 munud)
Dydd Mercher 24 Mawrth 2021 –
· Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd (5 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r rheoliadau i’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, i gyflwyno adroddiad erbyn dydd Llun 22 Mawrth.
4.2 Trefniadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gael ei ddwyn i sylw Aelodau newydd o’r Senedd.
Nododd y Pwyllgor hefyd y goblygiadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth ar ddechrau'r Chweched Senedd, ac yn benodol, unrhyw oedi wrth sefydlu'r pwyllgor cyfrifol newydd o dan Reol Sefydlog 21.
5 Adroddiadau Rheolau Sefydlog Drafft
5.1 Newidiadau amrywiol
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.
5.2 Aelodaeth Pwyllgorau
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.
5.3 Adalw’r Senedd
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.
6 Rheolau Sefydlog
6.1 Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol
Gwnaeth y Trefnydd gynnig diwygiedig ar gyfer diwygio'r Rheol Sefydlog, a gefnogwyd gan Sian Gwenllian. Nid oedd Mark Isherwood a Caroline Jones yn cefnogi'r cynnig newydd ac roeddent yn parhau i gefnogi cadw'r Rheol Sefydlog bresennol.
Bydd drafft diwygiedig o'r adroddiad, gan gynnwys canllawiau, yn cael ei ddosbarthu drwy e-bost, gyda'r bwriad o ddod i gytundeb ffurfiol yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
Unrhyw faterion eraill
Dyddiad cau ar gyfer Cwestiynau Ysgrifenedig cyn yr etholiad
Yn y cyfarfod diwethaf, nododd y Pwyllgor Busnes yr angen i Aelodau ac ymgeiswyr gael eu trin ar sail mor gyfartal â phosibl yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, a chytunodd na ddylid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod y cyfnod hwnnw. Cytunwyd ar ddyddiad cau o 19 Mawrth ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.
Yn dilyn sylwadau, cynigiodd Mark Isherwood a Sian Gwenllian ymestyn yr dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig hyd at 29 Ebrill. Eglurodd y Trefnydd na fyddai'r Llywodraeth yn ateb cwestiynau yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad, ac y gallai Aelodau ac ymgeiswyr fel ei gilydd ysgrifennu at Weinidogion i ofyn am wybodaeth.
Cytunodd mwyafrif o'r Pwyllgor Busnes i gadw at 19 Mawrth fel dyddiad cau.
Aelodau sy'n gadael y Senedd
Gofynnodd y Trefnydd a oes gan y Comisiwn unrhyw gynlluniau i gasglu barn a phrofiadau Aelodau sy’n gadael y Senedd, yn dilyn cwestiwn Alun Davies yn ystod y Datganiad Busnes yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Clerc y Senedd y byddai'n falch o gwrdd ag Aelodau sy'n ymadael i drafod eu profiadau.
Cyfarfod llawn olaf y Bumed Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddisodli'r eitem datganiadau 90 eiliad ar 24 Mawrth gyda datganiadau byr gan Aelodau sy'n ymadael. Byddai'r Aelodau a oedd wedi mynegi eu bwriad i ymddiswyddo yn etholiad 2021 yn cael cynnig y cyfle i siarad am 3 munud yr un.